Ers dipyn rwan, mae pethau wedi bod yn distaw, dwi dal yn siarad a dysgu Cymraeg, ond ers y cystadleaueth newydd wedi dechrau, dwi wedi cael bach o distawrwydd.
Tan wythnos diwethaf... mi ges i alwad gan Radio Cymru i ofyn os oedd 'na siawns i mi mynd ar rhaglen Taro Post. Iawn siwr, meddai fi, fel arfer, cyn i mi ddalt beth oedd y pwnc!! Wel dyma'r ebost ges i... Mae'r Safonau Iaith yn rheolau sy'n gorfodi sefydliadau i gynnig rhai gwasanaethau cyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraeg. Heddi ni am drafod eu gwerth, wrth i weinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, ddweud na fydd Llywodraeth Cymru'n gorfodi rhagor o sectorau i fabwysiadu'r Safonau Iaith, am y tro. Ei bwriad yw "ail-gyfeirio adnoddau" sy yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd i gyflwyno a phlismona'r safonau, a chanolbwyntio ar "gynyddu'r nifer o bobl sy'n siarad ac yn defnyddio'r Gymraeg". Yn ol Eluned Morgan mae y "broses o wneud a gosod y safonau yn llafurus, costus a chymhleth". Ond roedd hi yn bendant nad oedd hynny'n golygu y byddai Llywodraeth Cymru'n "rhoi'r gorau i orfodi'r safonau". Ond mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau bod "pobl Cymru ddim eisiau hawliau iaith gwannach"
Don i ddim wedi gweld y newyddion, felly off a fi i neud bach o ymchwil... Sgen i ddim syniad be' dudes i ar y radio, ond yn ôl i un o ffrindiau fi, wnes i siarad yn dda!! Ond dwi'n cytuno yn llwyr efo cynllun Eluned Morgan, does 'na ddim angen i mwy o reolau, am y tro. Os mae Llwyodraeth isio miliwn o siaradwyr erbyn 2050, rhaid iddyn nhw cefnogi teuluoedd, pobl a busnesau, yn enwedig busnesau lleol sy' o dan cymaint o pwysau yn barod efo brexit a'r cyflog byw. Mae bob dim yn costus y dyddiau hyn, ond i roi mwy o gyfrifoldeb ar busnesau i gyfieithu pethau, cyflogi pobl sy'n siarad Cymraeg neu darparu cyrsiau i bobl ddi Gymraeg ac yn y blaen yn siwr o achosi mwy o broblemau. Camau bach yn y llefydd iawn, dim rheolau mawr yw fy marn i... Be' dach chi'n feddwl??
0 Comments
Yr OrseddMi ges i’r llythyr gan Yr Orsedd tua mis yn ôl efo’r gwahoddiad i fod yn aelod.
Llenwes i’r ffurflen yn syth, ond doedd gen i ddim amlenni addas, felly wnes i roi y ffurflen ar yr ochr ac mi wnes i anghofio amdano fo!! Yn anfoddus roedd Guto yn yr ysbyty am sbel ac wedyn roedden ni’n brysur efo’r gwyliau pasg ac ar yr ochr arhosodd o!!! Os dach chi’n nabod fi, fydd o ddim yn synnu chi, dwi dal yn baio ‘baby brain’ am y ffaith dwi’n anghofio bob dim (sori hogiau!!)! Eniwê, mi wnes i ddefro yn sydyn ben bore dydd Sadwrn diwetha mewn panig, ro’n i’n hwyr wrth ateb, dydd Gwener oedd y dyddiad felly yrres i e-bost yn syth i ymddiheuro ac mi aethon ni i’r swyddfa post i brynu amlen a bostio fo!! Dwi’n edrych ymlaen cymaint, dwi di bwcio gwesty ym Mae Caerdydd, dwi di trefnu’r trŵps i gyd dod efo fi, fy nheulu o Loegr a dwi’n gwybod bydd ‘na nifer o deulu Arwel o gwmpas hefyd. Dan ni wrth ein boddau efo Caerdydd ac mae’r hogiau yn edrych ymlaen at fynd i lawr eto. Ella mi wnâi weld dipyn ohonoch chi yna hefyd, cofiwch deud helo os dach chi’n spotio fi! Sori!Rhaid i mi ymddiheuro! Dwi heb di sgwennu dim byd ers dipyn rwan, dwi di bod yn brysur efo’r tywydd garw dan ni di gael, gwaith, y plant a.y.y.b
Mi ges i neges tua 6 wythnos yn ôl gan Alun Williams i ofyn os oedd o’n gallu dod draw i neud ail gyfweliad, i dal i fyny efo be’ dwi di bod yn neud dros y chwech mis diwetha. Iawn dim problem meddai fi, roedd o isio gweld y plant tro ‘ma hefyd... ok, mae o di bod yn gweithio efo plant dros y blynyddoedd ac mae gynno fo blant ei hun, ‘what’s the worst that can happen’... felly, wnaethon ni drefnu’r cyfweliad am chwefror y 5ed ar ôl ysgol. Tua wythnos wedyn, ges i neges arall i ofyn i mi fynd ar y rhaglen Heno ei hun. Roedden nhw isio fi fynd lawr i stiwdio yn Llanelli a bob dim!! Www, noson i ffordd a profiad o neud teledu yn fyw hefyd, syniad grêt!! Ond... beth am cyfweliad arall... O’r diwedd, wnaethon ni bendefynu neud yr un efo Alun, oherwydd y plant, ond mae nhw di gaddo i mi fydd ‘na wahoddiad arall i’r stiwdio yn hwyrach yn y flwyddyn. Eniwe... wnaeth Alun dod draw efo criw bach a gaethon ni sgwrs bach da. Wnâi ddim deud gormod rŵan, dwim isio sboilio fo i chi!! Ond mae’r hen saying ‘never work with animals or children’ yn dod i fy meddwl!!! Lansio’r cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2018Mi aethon ni i Gaerdydd dros y benwythnos i helpu lansio’r cystadleuaeth 2018.
Mi es i i’r stiwdio Radio Wales bore dydd Sadwrn i siarad ar sioe Good Morning Wales, ges i alwad ffôn i ofyn os ‘swn i’n gallu cymryd rhan yn y sioe rhywsut, ond digwydd bod o’n i’n mynd i bod yng Nghaerdydd eniwe! Roedd y digwyddiad lansio dros amser cinio yn ystod Cwrs Calan, lle roedd rhaid i mi siarad am fy mhrofiadau yn ystod y cystadleuaeth y llynedd, i drio ysbridoli pobl i gystadlu. Ro’n i’n rhan o banel bach efo Ashok a Rwth, mi oedden nhw wedi cystadlu yn 2012 a 2016, felly roedden ni’n gallu rhoi cyngor a tips sut i neud pethau a beth i ddisgwyl. Gobeithio dan ni di ysbrydoli rhywun i roi cais i mewn. Dwi di cael amser gwych ers y ddechrau a swn i’n deud cer amdani i bawb! Lansio / Lansiad - launch https://l.facebook.com/l.php?u=https%3A%2F%2Feisteddfod.cymru%2Fy-maes%2Flleoliadaur-maes%2Fmaes-d&h=ATMAZjb71GsjncbhY-08AeVNKBo73djmUXAMxRP861_99LyX-GuwPAnjQV8qMEpNIovSATQ4PeGNyIeLWlo-RKdOJZ9z49ebkOywP5nGwuSN&s=1&enc=AZMYNFzgVYjW7vEIH51iR0M2kp2Z1CzmgbAVXU_59Y4m3__1mOWfC327z2KCTFshVF0PPmgNgWgPgyS7uMF2652v Blwyddyn Newydd Dda!Bach yn hwyr dwi’n gwybod, ond, Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd!!! Gobeithio bydd 2018 yn ffeind i chi!!
Wrth son am y flwyddyn newydd, mi fydd Dysgwr y Flwyddyn 2018 yn cael ei lawnsio yng Nghaerdydd ar y 13eg. Dwi wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan yn y digwyddiad, sy’dd yn cael ei gynnal yn ystod y Cwrs Calan ym Mhrifysgol Caerdydd. Gobeithio dwi’n gallu ysbrydoli rhywun i neud cais! Miliwn o siaradwyr... be’ dach chi’n feddwl?Un peth mae pobl yn gofyn bob tro yn cyfweliadau ydy beth dwi’n meddwl am y targed uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Wythnos yma mi es i ar Radio Cymru i gymryd rhan mewn sgwrs efo nifer o bobl gwahanol i trafod y cynllun.
Dwi’n meddwl mae’n rhaid i gwmniod rhoi mwy o gefnogaeth a cyfleuoedd i eu staff os mae nhw’n disgwyl iddyn nhw siarad Cymraeg yng ngwaith. Mae’n pwysig rhoi help i deuleuoedd a mamau newydd hefyd sy’n mynd Mae’n ddiddorol clywed barn pobl eraill, beth dach chi’n feddwl?? Neges yn lle anisgwyl!Wel, mi es i i’r syrjeri i nol prescription wythnos diwethaf a tra o’n i’n siarad efo’r dderbynwraig, dudodd hi, ww, mae ‘na neges yma sy’n ddeud “llongyfarchiadau i Emma am enill Dysgwr y Flwyddyn 2017 yn yr Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn!!”. Mae’n swnio reit ffurfiol, dwi’n gwybod dyna be’ digwyddod ond dwi’n meddwl ro’n i di anghofio bach!
Dwim yn gwybod os dach chi’n cofio, ond ro’n i’n gweithio’n galed i neud y Tystysgrif Cymraeg yn y Gweithle L6, rhyw 4-5 mis yn ôl? Eniwe, roedd ‘na cyflwyniad bach yn gwaith tua pythefnos yn ôl, i ddathlu llwyddiant pawb sy’ wedi neud tystysgrifau neu arholiadau dros y flwyddyn diwethaf. Roedd ‘na lluniaeth ac roedd Jerry Hunter yna i neud araith a chyflwno’r dystysgrifau. Dwi wrth fy modd mynd i ddigwyddiadau fel ‘ma i siarad efo pobl eraill sy’n ddysgu a trio annog ac ysbrydoli nhw i neud y cyrsiau eraill neu trio am Dysgwr y Flwyddyn. Dwi’n gobeithio bydd ‘na llwyth o bobl sy’n mynd amdani yn 2018 yng Nghaerdydd, dwi di cael gymaint o hwyl a dwi di cyfarfod gymaint o bobl wahanol hyd at rwan, mae hi wedi bod yn ffandabidosi!!!!! Lluniaeth - refreshments/food Ffilmio yng NghaerdyddWythnos diwethaf mi es i lawr i Gaerdydd i ffilmio sioe cwis Llyncu Geiriau, cwis i ddysgwyr. Mi ges i’r wahoddiad tua mis yn ôl, dim ond tair awr ‘sa fo cymryd i ffilmio pennod ni ac mae cwmni teledu yn talu teithio, llety a thalu ffi hefyd. Wnes i ofyn os o’n i’n gallu mynd ag Arwel a’r hogiau a ‘swn i’n talu unrhyw ‘extras’ i’r gwesty a wnaethon nhw gytuno yn syth. Roedden ni’n foddus iawn achos wnaethon nhw ffeindio ystafell teulu yn y budget, felly doedden ni ddim angen talu o gwbl!
Ro’n i’n ffilmio pennod fi am 08:30 bore dydd Sul, felly mi aethon ni i lawr ben bore Sadwrn i neud yr orau o’r amser. Roedd y siwrne i lawr yn glir ac yn haws, heblaw y ffaith roedd Arwel yn gyrru! Stopiodd y glaw tua phum munud ar ôl wnaethon ni gyrraedd a mi wnaethon ni gerdded o gwmpas y ddinas am oriau cyn mynd yn ôl i westy am egwyl bach. Roedd y gwesty hanner ffordd rhwng bae Caerdydd a’r ddinas, felly wnaethon ni gerdded i lawr i’r bae am fwyd. Mi gaethon ni fwyd lyfli yn Strada, tŷ bwyta Eidaleg a wedyn yn ôl i’r gwesty i trio cael noson da o gwsg!! Ar ôl brecwast sydyn yn y gwesty, es i i’r stiwdio. Roedd ‘na dri ohonyn ni yn disgwyl a ddisgwyl ond yn anfoddus doedd y bedwerydd person ddim yn gallu dod. Ffoniodd y bobl teledu rhywun arall i ddod ac yn ffoddus iawn, daeth Hugh Brightwell!! Dwim yn mynd i ddeud mwy, oherwydd sboilio’r rhaglen i chi, jest neud yn sicr bod chi’n wylio Dal Ati am 10yb noswyl nadolig!!! Wnes i ffeindio’r wefan ‘ma tra o’n i ar Facebook ac mae’n reit diddorol, mae’n dangos lle mae pobl yn dysgu neu siarad Cymraeg dros y byd. Ewch ar a rhoi’ch manylion. http://braw.media/add-welsh-marker/ Wel, mi es i i’r stiwdio BBC i wneud y sioe ac roedd o’n da iawn. Dwi erioed di bod tu mewn i stiwdio radio o’r blaen a roed ‘na 3 meic efo chlystffonau i wisgo. Roedd Gaynor yn lyfli a wnaeth hi neud ni teimlo’n reit cyfforddus ac roedd o’n jest fel gael sgwrs efo dy ffrindiau. Mi ges i fy nghopi o’r llyfr Mared y diwrnod cynt, felly mond 2 pennod o’n i di darllen cyn y sioe, ond dwi di gorffen o erbyn hyn ac roedd o’n rili da.
Mi ges i sioc mawr yn gwaith dydd mawrth diwethaf, ro’n i’n gwybod roedd ‘na rywbeth yn mynd ymlaen, ond dim rhywbeth mor swyddogol. Mi ges i fy ngalw i’r bar oherwydd roedd ‘na ‘rywbeth yn gollwng’... pan es i i fewn roedd ‘na tua ugain o bobl yna yng nghynwys Jerry Hunter a llwyth o fy hen diwtoriaid! Roedd hi’n mor lyfli, mi ges i flodau hyfryd a wnaeth Jerry neud araith ffeind ag Elwyn hefyd! Wedyn, mi gaethon ni deisennau flasus iawn, wnes i mynd a ‘leftovers’ adra, felly roedd yr hogiau yn hapus hefyd!!! https://www.facebook.com/ManagementCentre/videos/1498406746880213/ Gair newydd wythnos yma: gogoneddus - glorious Yn ôl yn y byd go wirDwi di bod mor brysur ers dwi di bod yn ôl yn gwaith, mae'n anodd ffeindio amser i eistedd i lawr i sgwennu! A dwi dal heb di cael y 'gist' o'r blog 'ma, o'n i'n meddwl o'n i di neud blogs fi yn fyw, ond na!!
Wel wythnos diwethaf, mi ges i neges gan ffotograffydd o'r enw Gari Wyn Williams, mae o'n dod o Ddeiniolen yn wreiddiol ond mae'n byw yn Rhufain pellach. Son am dalentog (dwi'n ddeuthoch chi mai Deiniolen yw un o'r pentrefi mwya dalentog yng Nghumru!), os gynnoch chi amser, googlo fo. Eniwe... tra mae o adra bob haf, mae o'n tynnu llunia problem i ehangu ei bortffolio ac mae o isio tynnu llun fi!! Wnâi bostio'r linc i chi pan mae o di gorffen gweithio arnyn nhw. Dyma chi: http://www.gwynebau.com/Portrait/Portraits-Archive/Emma-Chappell/ Hefyd mi ges i alwad gan y BBC i ofyn os swn i'n licio mynd ar Radio Cymru i trafod llyfrau i ddysgwyr. Grêt, dwi wrth fy modd darllen a dwi wedi darllen llwyth o lyfrau cymraeg, felly pam ddim! Roedden nhw isio fi siarad efo Gaynor Davies yn y bore ac roedd Mared Lewis sy' newydd cyhoeddi llyfr o'r enw 'Fi a Mr Huws' yn mynd i bod yna hefyd. Wnaethon nhw yrru copi o lyfr Mared i mi hefyd er mwyn i mi gael blas o'r llyfr cyn y rhaglen. Un peth dwi'n licio efo llyfrau i ddysgwyr ydy'r eirfa ar y tudalen ti'n ddarllen. Dwi'n cofio pan wnes i ddechrau darllen ro'n i'n sbia yn y geiriadur bob tro do'n i'm yn gwybod be' oedd y gair, roedd hi'n cymryd oriau i ddarllen un tudalen!! Ond fel o'n i'n dod i arfer y geiriau ac y proses darllen, ro'n i'n gallu darllen y brawddeg i gyd cyntaf ac wedyn trio dallt, neu gweithio allan, be' oedd y geiriau do'n i ddim yn dallt. Geirfa: Rhufain - Rome Ehangu - expand |